Amdanom ni

Mae ARTCARDIFF yn le cynhwysol ar gyfer rhannu – ‘dyn ni’n casglu gwybodaeth am gelf weledol yng Nghaerdydd – lleoliadau, amserlenni a chyfeiriadur – ac wedi eu lleoli i gyd mewn un man cyfleus, Mae’n rhad ac am ddim i restru ac i’w weld. Os oes digwyddiad neu leoliad ‘dych chi’n meddwl dylai fod yno, neu os yw eich hoff le ar goll – rhowch wybod!

A stack of pink-paper leaflets with ARTCARDIFF on the cover.

Mae ARTCARDIFF yn gwneud yn union yr hyn y mae’n ei ddweud. Ar un adeg fe’i gelwid yn syml fel ARC ond bu bron iddo gael ei alw’n llawer, llawer o wahanol bethau; Cardiff Artists Network, Sightseer, Urban Foxes, Checkpoint ac am ryw reswm, Owl-Precinct.