Mae Artes Mundi yn chwilio am Dywysyddion yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 6/10/12 – 13/01/13
Mae Artes Mundi yn fenter celf weledol cyfoes rhyngwladol, sydd yn ymroddedig i gydnabod ag arddangos rhai o artistiaid mwyaf cyffrous y byd sydd yn dechrau dod i’r amlwg ag i ysbrydoli cynulleidfaoedd hen a newydd. Bob dwy flynedd detholir rhestr fer a dangosir casgliad o waith gan bob artist. Fydd arddangosfa Artes Mundi 5 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru (6ed Hydref 2012 – 13eg Ionawr 2013) yn dangos gwaith gan saith artist sydd yn trafod y cyflwr dynol ac sydd yn ymwneud â realedd cymdeithasol a profiad byw. Mae’r thema yn galluogi’r cyhoedd i fod yn dyst i’r ffordd mae artistiaid ledled y byd yn rhoi sylwadau ar gymdeithas o’u bersbectifau wahanol. Fydd Gwobr Artes Mundi yn cael ei ddyfarnu yn mis Tachwedd 2012 i un o’r artistiaid ar y rhestr fer.
Mae Artes Mundi yn chwilio am dîm o Dywysyddion/ arweinyddion gweithdai i weithio ar yr arddangosfa nesaf ac i gefnogi y rhaglen gyhoeddus a chymunedol. Fydd y Tywysyddion yn dehongli gweithiau celf unigol, trafod syniadau sydd yn tarddu ohonynt â’r arddangosfa yn ei gyfanrwydd. Fydd hyn yn cynnwys ateb cwestiynnau gan ymwelwyr, cynnal teithiau tywys a dyfeisio ag hyrwyddo gweithdai penodol ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd yn cynnwys teuluoedd, ysgolion, colegau yn ogystal â grwpiau corfforaethol.
• Ydych chi’n wybodus am celf gyfoes ac yn frwdfrydig amdano?
• Oes gennych gymhwyster addysgol celf gain berthnasol?
• Oes gennych chi’r gallu i gyfathrebu yn glir – ar lafar a thrwy waith ysgrifennedig ar sawl lefel i unigolion o bob oed?
• Ydych chi’n frwdfrydig, yn brydlon ac yn ddibynadwy?
Bydd yn ofynnol i unigolion i gyfarwyddo ei hun yn drwyadl â gwaith pob artist a chyd-destun diwylliannol y gwaith. Darperir hyfforddiant llawn. Cyflog o £12.16 yr awr (mae’r cyfradd yma yn cynnwys 12 o dâl tuag at gwyliau) , ac mae gwaith rhan amser a llawn amser ar gael.
Dyddiad cau ar gyfer ceisadau: 2yp Gorffennaf 9fed 2012
Am becyn gwybodaeth a manylion pellach ymwelwch â
www.artesmundi.org neu ebostiwch
info@artesmundi.org
Artes Mundi, Siambrau St Ioan, Arcêd y Stryd Fawr, Caerdydd CF10 1BD
ffôn: 02920 555 300
www.artesmundi.org
Ariannir Artes Mundi yn gyhoeddus gan Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Cyngor Celfyddydau Cymru a thrwy partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru- National Museum of Wales
Ariannir y Tyswysyddion gan Colwinston Charitable Trust