project/ten | cylchlythyr #23 | mawrth 2012

gwanwyn #3
mae arddangosfa dros-dro diweddaraf yr oriel, gwanwyn #3, bellach yn ei wythnos olaf yn arced y stryd fawr a bydd yn dod i ben ddydd sadwrn mawrth 31
am wybodaeth pellach - gan gynnwys oriau agor, lluniau o'r gofod arddangos a catalog yr arddangosfa, gwelwch wefan yr oriel ar ei newydd wedd
art carbootique
bydd yr oriel unwaith eto yn rhan o ffair gelf yng nghanolfan celfyddydau chapter, sef yr 'art carbootique' - digwyddiad un diwrnod lle bydd grwpiau diwylliannol a creadigol o gaerdydd yn cymryd drosodd maes parcio y ganolfan
bydd gwaith gan rai dethol o artistiaid a cynllunwyr yr oriel yn cael eu harddangos - os bydd y tywydd yn caniatáu ...
dilynwch yr oriel ar twitter a facebook - yn ogystal â tumblr newydd yr oriel - i fod ar flaen y gad
www.project-ten.co.uk
Posted by gallery/ten
27 March 2012